Page 4 - Olchfa - Secondary Prospectus Autumn 2024
P. 4

CROESO'R


                                               PENNAETH




                                               Mae’n bleser gennyf gynnig y cyflwyniad hwn i’r prosbectws
                                               hwn, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar waith, ymagwedd a

                                               gwerthoedd Ysgol Olchfa. Rydym yn croesawu ceisiadau am
                                               le ym Mlwyddyn 7 ar gyfer mynediad mis Medi, ond hefyd
                                               drwy gydol y flwyddyn ar gyfer pob grŵp blwyddyn, gan
                                               gynnwys y Chweched Dosbarth.


                                               Mae Olchfa yn ysgol fawr a phrysur ond hefyd yn un sy'n
                                               cadw naws deuluol. Mae canlyniadau arholiadau allanol ym
                                               Mlynyddoedd 10-13 yn gyson yn gosod myfyrwyr yr ysgol ymhlith
                                               y cyflawniadau uchaf yng Nghymru. Mae hyn yn deillio o safon
                                               uchel iawn o addysgu sy’n seiliedig ar berthnasoedd rhagorol
                                               ar gyfer dysgu, awyrgylch o barch a dysgu sy’n digwydd mewn
                Julian Kennedy                 partneriaeth, yn enwedig gyda chi fel teuluoedd. Mae corff
                                               llywodraethu’r ysgol, y timau arwain a’r staff ym mhob rôl yn
                               PENNAETH        gweithio’n galed i roi’r plant wrth wraidd popeth a wnawn, gan
                                               barhau i esblygu a datblygu yn ôl yr angen.


                                               Er mor bwysig yw canlyniadau, mae Ysgol Olchfa yn ymwneud â
                                               llawer mwy na chanlyniadau academaidd. Mae ein pwrpas moesol
                                               yn bwysig iawn wrth i ni weithio i helpu i ddatblygu pobl ifanc
                                               gyflawn sy'n barod ar gyfer y byd. Rydym yn ymdrechu’n galed
                                               i wneud yr Olchfa yn lle cadarnhaol, lle gall pobl ifanc ffynnu.
                                               Rydym yn croesawu amrywiaeth a chynwysoldeb fel ysgogwyr
                                               cymuned ysgol gyfoethog a bywiog. I gefnogi pobl ifanc ac i helpu
                                               adeiladu eu gwytnwch, mae Olchfa yn cynnig pecyn rhagorol o
                                               ofal bugeiliol, gan hybu iechyd a lles a’r cymorth sydd ei angen i
                                               oresgyn unrhyw rwystrau i ddysgu.

                                               Yr un mor bwysig, mae Olchfa yn ysgol o gyfle a, gobeithio,
                                               llawenydd. Bydd eich plant yn cael y cyfle i roi cynnig ar brofiadau
                                               newydd, i ymweld â lleoedd newydd ac i arddangos eu talent,
                                               beth bynnag fo ffurf. Rydym yn dathlu cyflawniadau ein myfyrwyr,
                                               yn yr ysgol a thu allan. Rydym am i Olchfa adlewyrchu a siapio’r
                                               cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, gan weithio mewn
                                               partneriaeth ag ysgolion cynradd, busnesau a sefydliadau lleol ac,
                                               yn bwysicaf oll, chi fel teuluoedd.


                                               Gobeithio bod y prosbectws hwn yn rhoi blas i chi o'r ysgol. Y
                                               ffordd orau o adnabod yr ysgol yn wirioneddol yw ei gweld eich
                                               hun. Rydym yn croesawu ymweliadau gan ddarpar ddisgyblion
                                               a’u rhieni neu ofalwyr drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein
                                               digwyddiadau ffurfiol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch,
                                               cysylltwch â'n swyddog derbyn, a fydd yn hapus i helpu.


          2
   1   2   3   4   5   6   7   8   9